Croeso i Gynlluniau Dŵr Cymru – yma fe ffeindiwch chi bopeth y mae angen ei wybod am ein cynlluniau ar gyfer 2025 a hyd at 2030.
Ac fe welwch chi esiamplau o’r prosiectau yn eich cymuned wrth iddynt ddatblygu hefyd.
Yn Dŵr Cymru, mae ein cwsmeriaid a’n cymunedau wrth galon popeth a wnawn. Cliciwch yma i weld y map rhyngweithiol a fydd yn eich helpu chi i weld y cynlluniau a’r prosiectau sydd ar droed yn eich cymuned.
Gwybodaeth ddiweddar
Bil cyfartalog Dŵr Cymru i gynyddu 4.8% yn 2026-27
Bydd biliau cyfartalog cwsmeriaid domestig Dŵr Cymru yn cynyddu 4.8% yn 2026-27, o £652 i £683.
Bydd y cynnydd mewn prisiau’n helpu i sicrhau ei bod ni’n cyflawni ei nod o ddarparu gwasanaethau dŵr o’r safon uchaf ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Yn sgil y cynnydd mewn prisiau, bydd cwsmeriaid Dŵr Cymru’n talu llai na £2 y dydd ar gyfartaledd am eu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.
Mae’r cynnydd yma gyda’r isaf o blith cwmnïau dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr.
Rhwng 2025-30 caiff dros £4bn ei fuddsoddi yn ein gwasanaethau – sef dwbl y buddsoddiad yn 2020-25 – ac mae hyn yn cynnwys £2.5n ar brosiectau i wella’r amgylchedd.
Bydd y buddsoddiad yma’n ariannu gwaith i leihau llygredd, uwchraddio ac adeiladu asedau newydd hanfodol, lleihau gollyngiadau, a gwella ansawdd dŵr.
Mae Dŵr Cymru’n gwasanaethu 3m o bobl ar draws Cymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy. Mae ei seilwaith yn cynnwys mwy na 36,500km o garthffosydd, 834 gwaith trin dŵr gwastraff, mwy na 27,500km o brif bibellau dŵr, 65 gwaith trin dŵr a 92 cronfa ddŵr.
Gall ein cwsmeriaid bregus elwa ar gynlluniau tariffau cymdeithasol y cwmni sy’n helpu i wneud biliau’n fwy fforddiadwy.
Mae model nid-er-elw Dŵr Cymru’n caniatáu i unrhyw arian sydd dros ben gael ei ail-fuddsoddi, gan ddarparu £14.7m o ddarpariaeth o ran tariffau cymdeithasol â’r capasiti i gynorthwyo 147,000 o gwsmeriaid.
Cliciwch yma i weld ein datganiad diweddar i’r wasg.
—
Buddsoddiad a pherfformiad Dŵr Cymru: Ebrill i Fedi 2025
Cyhoeddwyd ein canlyniadau canol blwyddyn yn ddiweddar, a oedd yn dangos buddsoddiad o £650m yn 2025/26, sef blwyddyn gyntaf ein cynllun buddsoddi 5-mlynedd. Rhwng 2025 a 2030, byddwn ni’n buddsoddi cyfanswm o dros £4bn, gyda £2.5bn o hynny’n cael ei fuddsoddi yn yr amgylchedd.
Gwlyptir gorlif storm £13 miliwn ym Mhont-y-felin, Torfaen
Mae Cynllun Busnes Dŵr Cymru’n gam mawr i fyny mewn buddsoddiad dros y 5 mlynedd nesaf. Yn ogystal â’r amcanion sy’n bwysig i’r busnes, mae’n adlewyrchu’r gwelliannau y mae ein cwsmeriaid am eu gweld hefyd.
Mae Cynllun Busnes 2025-2030 yn amlinellu ein hymrwymiad i gyflawni mwy o fuddsoddiad nag erioed, a fydd yn caniatáu i ni wneud gwelliannau sylweddol i’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein 3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru a rhannau o Loegr.