Ein Cynllun Busnes 2025-2030

Mae ein Cynllun Busnes yn gam pwysig i fyny mewn buddsoddiad dros y 5 mlynedd nesaf, sy’n adlewyrchu’r gwelliannau y mae ein cwsmeriaid am eu gweld yn ogystal ag amcanion pwysig y busnes.

Mae’r Cynllun Busnes ar gyfer 2025-2030 yn amlinellu ein hymrwymiad i gyflawni buddsoddiad uwch nag erioed, gan ganiatáu i ni wneud gwelliannau sylweddol i’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein 3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru a rhannau o Loegr.

Cynllun Busnes 2025-30
Ein Cynllun Busnes mwyaf uchelgeisiol

Mae’r diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr yn gweithio mewn cylchoedd 5 mlynedd, ac mae ein Cynllun Busnes diweddaraf yn cwmpasu 2025-30. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y Cynllun hwn gyda’n rheoleiddwyr, rhanddalwyr a chwsmeriaid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Yr her i ni yw sicrhau ei fod
  • yn bosibl: mae angen i ni sicrhau y gallwn gyflawni’r holl gynlluniau buddsoddi a nodir yn ein Cynllun
  • yn fforddiadwy: mae angen i ni sicrhau bod cynifer o gwsmeriaid â phosibl yn gallu fforddio talu eu biliau, a helpu’r rhai sy’n cael trafferth
  • yn arianadwy: rydyn ni’n dibynnu ar y marchnadoedd ariannol i godi arian i helpu i ariannu ein buddsoddiad, felly mae angen i’r cynllun fod yn hygred

Mae ein cynlluniau buddsoddi ar gyfer 2025-30 yn cynrychioli ein Cynllun Busnes mwyaf uchelgeisiol erioed, gan gynnwys:

£4 biliwn
o fuddsoddiad mewn gwasanaethau (gwariant cyfalaf cynlluniedig)
£2.5 biliwn
i amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol
£73 miliwn
i gynorthwyo’r cwsmeriaid â’r incwm isaf sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.

Cafodd y Cynllun Busnes yma ei lywio gan waith ymchwil i gwsmeriaid er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth dda am anghenion a blaenoriaethau cwsmeriaid, a’i fod yn adlewyrchu eich safbwyntiau a’ch blaenoriaethau chi.

Dywedodd 81% o gwsmeriaid Dŵr Cymru fod y Cynllun yn ‘dderbyniol’.

Buddsoddi
dros £2 filiwn y dydd

Rydyn ni’n buddsoddi dros £2 filiwn y dydd er mwyn cynnal ac uwchraddio’r seilwaith sy’n cynnal y gwasanaethau a ddarparwn, gyda miloedd o filltiroedd o bibellau, a channoedd o weithfeydd trin a gorsafoedd pwmpio.

  • Ll
  • Ma
  • Me
  • I
  • G
  • Sa
  • Su
Mae ein gweledigaeth yn syml
Ennill ffydd ein cwsmeriaid, bob dydd

Ar gyfartaledd dros y 15 mlynedd diwethaf, nid yw biliau wedi codi’n gyson â chwyddiant. Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle mae angen i ni gynyddu’r buddsoddiad yn ein seilwaith dŵr a dŵr gwastraff fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy, a lliniaru risgiau fel y rhai sy’n dod yn sgil newid hinsawdd.

Rydyn ni’n darparu hyn oll am gost gyfartalog o
£
1.75
yr aelwyd y dydd
Golygfa o'r awyr o Gronfa Ddŵr Pontsticill ar ddiwrnod clir a heulog.
Mae ein huchelgeisiau’n glir
Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae ein Cynllun Busnes yn dangos y math o gwmni rydyn ni eisiau bod, a’r gwasanaeth a ddarparwn, nawr ac yn y dyfodol.

Am nad oes cyfranddalwyr gennym, gallwn feddwl a blaengynllunio ar gyfer y tymor hir heb boeni am dalu buddrannau tymor byr.

Ein nod hirdymor yw “darparu gwasanaeth dŵr o safon ryngwladol, sy’n gadarn ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r dyfodol.” Mae hyn yn bwysicach nac erioed nawr o ystyried y sialensiau y gwelwn ym mhobman o’n cwmpas

Er nad corff cyhoeddus ydyn ni, rydyn ni’n gweithredu yn ôl gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ac mae ein Cynllun yn cefnogi’r saith Nod Llesiant.

Y Cynllun Busnes yma yw’r cam nesaf i gyflawni ein nodau o sicrhau gwasanaeth cynaliadwy a gwydn ar gyfer 2050 a’r tu hwnt. Mae hynny’n golygu ymateb i’r sialensiau rydym yn eu rhagweld yn y byd o’n cwmpas, gan fanteisio ar arloesi a thechnoleg i ddarparu gwasanaeth gwerth gorau, a sicrhau nad ydym ni’n gosod baich ar y genhedlaeth nesaf.

Map of Wales made of water droplets
Dros Gymru

Fel un o gwmnïau mwyaf Cymru, mae cyfrifoldeb arnom ni i wneud ein gorau glas dros Gymru a’i phobl.

Mae’r sialensiau sy’n ein hwynebu ni’n gymhleth, ac mae gan sectorau eraill, fel amaethyddiaeth, diwydiant, y sector cyhoeddus a’r rheoleiddwyr oll ran i’w chwarae.

Rydyn ni’n cefnogi dull o weithredu fel ‘Tîm Cymru’ sy’n golygu bod y rhai sy’n rhannu’r un amcanion yn cydweithio’n effeithiol i wella’r amgylchedd a’r cymunedau a wasanaethwn, ar lefel leol a chenedlaethol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan.

Ein sialensiau

Rydyn ni’n gweithredu mewn ardal sy’n darparu set unigryw o sialensiau ar ein cyfer ni fel cwmni dŵr.

Tri eicon oren yn dangos grŵp o bobl
Y boblogaeth
mae ein poblogaeth ar wasgar mewn ardaloedd gwledig, sy’n golygu mwy o gilomedrau o bibellau, a mwy o weithfeydd trin fesul cwsmer. Mae ein rhwydwaith dŵr, sydd wedi ei ddominyddu gan gronfeydd dŵr tir uchel a systemau ar sail disgyrchant, yn golygu bod y piblinellau’n gweithio dan bwysedd uchel iawn, sy’n gallu arwain at nifer fawr o fyrstiau ar brif bibellau.
Eicon gwyrdd tywyll sy’n dangos arian papur
Prisiau
Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae cwsmeriaid wedi gweld biliau dŵr cymharol sefydlog yn nhermau real, ond mae lefel uwch y buddsoddiad sydd ei angen yn 2025-30, ynghyd â’r costau cyllido uwch, yn golygu y bydd angen i filiau domestig gynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Mae her ychwanegol yn ein hwynebu ni, am taw gennym ni mae’r gyfradd dlodi uchaf o blith yr holl gwmnïau dŵr wedi ei fesur gan y Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD), sef mesur o’r gyfran o aelwydydd sy’n byw ag amddifadedd incwm. Mae hyn yn gadael ein cwsmeriaid mewn sefyllfa fwy bregus ar gyfartaledd i unrhyw gynnydd yng nghost nwyddau a gwasanaethau.
Eicon gwyrddlas o donnau yn dangos dŵr
Afonydd ACA
Mae yna naw Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) afonol yng Nghymru, sy’n fwy na’r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn Lloegr. Mae’r afonydd hyn yn ecolegol sensitif ac yn cynnal rhai o fywyd gwyllt mwyaf arbennig Cymru, fel eogiaid Iwerydd, misglod perlog yr afon, cimwch afon crafanc wen, a llyriad nofiadwy. Mae gennym fwy o gyrff dŵr afonol WFD nac sydd mewn ardaloedd gweithredu cwmnïau eraill hefyd, ac maen nhw i gyd yn hanfodol i’w hamgylchedd lleol. Mae buddsoddi mewn amddiffyn ansawdd dŵr afonol rhag effeithiau gweithgarwch dynol yn hanfodol i weithrediad systemau’r afonydd a’r bywyd gwyllt y maent yn ei gynnal
Eicon glas sy’n dangos y ddaear, a’r Deyrnas Unedig yn benodol
Newid hinsawdd
Mae effeithiau newid hinsawdd ar ein hardal weithredu'n dod yn fwyfwy amlwg. Yng Nghymru a pharthau gorllewinol eraill y DU, y prif destun pryder yw'r cynnydd yn amledd a dwyster y glawiad, sy'n dod â goblygiadau mawr o ran draenio yn gyffredinol, ac o ran gweithrediad ein rhwydwaith dŵr gwastraff yn benodol. Yn ogystal, gall digwyddiadau o dywydd eithafol fel hyn effeithio ar y gwasanaethau dŵr yfed hefyd, fel y dangosodd y llifogydd diweddar yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Tynywaun yn ne Cymru ym mis Tachwedd 2024, a arweiniodd at gyhoeddi hysbysiad berwi dŵr rhag ofn ar gyfer 12,000 o gartrefi.
Ein Cynlluniau
Darllenwch ein Cynlluniau ar gyfer 2025-2030

I ddarllen ein cynlluniau manwl, mae’r linc yma’n cynnwys ein holl gynlluniau a gyflwynwyd i’r rheoleiddiwr yn 2024.

Cliciwch yma i weld crynodeb o'n Cynllun Busnes 2025-2030 ar gyfer cwsmeriaid.

Cliciwch yma i ddarllen Llythyr Agored at ein cwsmeriaid gan Peter Perry, y Prif Weithredwr.