
Mae Dŵr Cymru’n darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ar gyfer dros 3.1 miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru a rhai rhannau cyfagos o Loegr.
Ni yw’r mwyaf ond pump o’r 11 cwmni dŵr a charthffosiaeth cyfunol yng Nghymru a Lloegr o ran nifer ein cwsmeriaid.
Adnodd naturiol yw dŵr, ond mae angen ei lanhau er mwyn iddo fod yn ddigon diogel i’w yfed. Dŵr crai yw’r dŵr y gwelwch chi yn y cronfeydd ac rydyn ni’n ei lanhau ac yn ei drin i safon uchel fel ei fod ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Rydyn ni’n cludo eich dŵr gwastraff i ffwrdd ac yn ei drin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd hefyd.
Ond nid ar chwarae bach mae cynnal yr holl waith yma, ac rydyn ni’n gwneud llawer iawn mwy hefyd.
Ers 2001, mae Dŵr Cymru wedi bod yn eiddo i Glas Cymru, cwmni un-pwrpas heb unrhyw gyfranddalwyr. Mae’r model gweithredu yma’n caniatáu i ni fuddsoddi unrhyw wargedion ariannol yn ôl yn y cwmni – arian a fyddai wedi mynd i bocedi cyfranddalwyr mewn cwmnïau arall.. Ers 2001, mae hyn wedi caniatáu i ni fuddsoddi £600 miliwn yn rhagor er mwyn cadw biliau’n is, cyflymu buddsoddiad, a chynorthwyo mwy o gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau dŵr.