Mae afonydd yn hanfodol i’n hiechyd, ein heconomi a’n llesiant, yn ogystal ag i ecoleg a bioamrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn.
Maen nhw’n hanfodol i’n gweithrediadau hefyd oherwydd, fel cwmni dŵr, rydyn ni’n codi dŵr er mwyn creu dŵr yfed ac yn dychwelyd y dŵr gwastraff i’n hafonydd wedyn ar ôl ei lanhau.
Mae lefel y maetholion, llygredd cemegolion fel metelau, amonia, silt, bacteria sy’n cymryd ocsigen, rhwystrau i symudiad pysgod, sbwriel a sawl ffactor arall yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr afonol.
Mae trwyddedau ar waith yn ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff sy’n cyfyngu ar lefelau’r maetholion a allai fod yn niweidol a ffactorau eraill sy’n gallu achosi niwed i iechyd yr afon wrth ryddhau dŵr ar ôl ei drin. Ein rheoleiddwyr sy’n pennu’r trwyddedau hyn a gallant eu diwygio pan fo angen er mwyn adlewyrchu anghenion newidiol yr afon a’r gwaith ymchwil gwyddonol diweddaraf. Pan fo hynny’n digwydd, rydyn ni’n gweithio gyda’n rheoleiddiwr i wella ac uwchraddio ein gweithfeydd trin.
Yng Nghymru mae gan 44.5% o’n hafonydd statws ecolegol ‘da’ ar hyn o bryd o gymharu ag 14% yn Lloegr. Byddwn ni’n parhau i wneud gwelliannau er mwyn codi rhagor o afonydd i’r safon yma sy’n cael ei ddiffinio gan y rheoleiddwyr.
Mae yna sawl ffactor sydd y tu hwnt i reolaeth y diwydiant dŵr sy’n cyfrannu at lefelau ansawdd dŵr afonol. Mae’r rhain yn cynnwys dŵr glaw ffo, pibellau carthion sydd wedi eu camgysylltu, defnyddiau tir gwledig fel amaethyddiaeth, a thanciau septig preifat. Gellir gweld sut y gall y gwahanol ffynonellau yma o lygredd effeithio ar ansawdd dŵr afonol yn y modelau rydyn ni wedi eu datblygu er mwyn deall llygredd yn nifer o’n hafonydd ACA.
Byddwn ni’n gwario £1.9 biliwn ychwanegol dros ben ein gwariant pob dydd yn ein busnes dŵr gwastraff dros y pum mlynedd o 2025 ymlaen er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr afonol a chyflawni gwelliannau amgylcheddol eraill, o gymharu ag £1 biliwn dros y pum mlynedd diwethaf. Caiff yr arian ei dargedu lle bydd yn dod â’r manteision amgylcheddol mwyaf, gydag £1 biliwn yn mynd ar leihau effaith gorlifoedd storm ar yr amgylchedd.
Mae angen i’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad fodloni ein rhwymedigaethau rheoliadol o dan Gynllun Amgylcheddol Cenedlaethol (Cymru), a Chynllun Amgylcheddol Cenedlaethol y Diwydiant Dŵr (ar gyfer ein hardaloedd yn Lloegr).