Mae dŵr yfed diogel o safon uchel at ddibenion yfed ac at ddefnyddiau domestig neu fusnes yn hanfodol ar gyfer bywyd pob dydd ac yn rhan greiddiol o’n cenhadaeth. Rydyn ni’n arddel dull ‘o’r tarddle i’r tap’ er mwyn sicrhau bod ein dŵr tap o’r safon uchaf bob un dydd, sy’n cwmpasu popeth o’r tir uchel lle mae’r glaw yn disgyn, i’r pibellau sy’n cludo’r dŵr i eiddo cwsmeriaid.
Mae diogelwch ac ansawdd dŵr yn cael ei fonitro’n ofalus a’i orfodi gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) fel y gall cwsmeriaid ymddiried yn llwyr yn y dŵr sy’n dod allan o’r tap .
Er mwyn helpu i sicrhau ansawdd dŵr yfed, byddwn ni’n taclo:
Dibynadwyedd: Dylai cwsmeriaid fod yn gallu dibynnu ar y ffaith fod dŵr ar gael iddynt pryd bynnag y bo angen, nawr ac yn y dyfodol. Mae toriadau tymor byr mewn cyflenwadau yn gallu achosi anghfleustra difrifol pan fyddant yn codi. Pan fo prif bibellau’n byrstio gan effeithio ar gwsmeriaid, rydyn ni’n gweithio’n galed i adfer cyflenwadau dŵr cwsmeriaid cyn gynted â phosibl, ac yn rhyddhau dŵr potel a’i gludo i gartrefi cwsmeriaid bregus.
Afliwiad: Mae ein perfformiad o ran digwyddiadau o ddŵr tap afliw yn parhau i fod yn her. Yn gyfrannol, rydyn ni’n cael mwy o gysylltiadau gan gwsmeriaid ar y mater yma na chwmnïau eraill. Mae hi’n fater cymhleth sy’n gysylltiedig ag ansawdd newidiol y dŵr crai yn ein cronfeydd, llif uchel yn y rhwydwaith mewn cyfnodau sych, ac adwaith cyfansoddion yn y dŵr â deunyddiau’r pibellau. Ni fydd gwelliannau parhaus yn bosibl heb gyflymu’r gwaith o ddisodli hen brif bibellau dŵr haearn bwrw. Byddwn ni’n buddsoddi £150 miliwn i ddisodli tua 100 cilomedr o brif bibellau haearn bwrw â phibellau o ddeunydd modern.
Plwm: Mae’r pibellau cyflenwi dŵr ar dir y cwsmeriaid, sy’n eiddo i’r cwsmeriaid eu hunain, yn effeithio ar ansawdd y dŵr tap hefyd. Er nad y cwmni dŵr sy’n gyfrifol am y rhain, mae gennym ni’r arbenigedd a’r gallu i gynnal ymdrech i fynd i’r afael ag etifeddiaeth niweidiol pibellau cyflenwi a wnaed o blwm. Yn 2025-2030, byddwn ni’n parhau i ddisodli pibellau cyflenwi plwm cwsmeriaid am ddim.