Casnewydd
Trosolwg

Mae Casnewydd yn ne-ddwyrain Cymru ac mae’n cwmpasu tua 73 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o tua 159,000. Mae sawl afon yng Nghasnewydd, gan gynnwys Afon Wysg sy’n llifo trwy ganol y ddinas ac i mewn i aber Afon Hafren.

Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 5 gwaith trin dŵr gwastraff ac 1 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 1138km o garthffosydd a 864km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Fi a Fy Nŵr Cymru

Mae Fi a Fy Nŵr Cymru yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n adio gwerth ychwanegol yn eich cymuned. Wedi ei hwyluso gan ein model nid-er-elw, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol, yn ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, yn cynnig help a chymorth ar gyfer aelwydydd, ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl i arbed dŵr. Dyma rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd i feithrin cymunedau llewyrchus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Cliciwch drwodd i ddarganfod mwy am rai o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu yn eich ardal.

Eicon glas o donnau i ddangos dŵr
Astudiaethau Achos
Adeiladu Cymunedau Gwydn

Mae ein gwaith yn ymestyn y tu hwnt i hetiau caled a rhawiau, gyda’n timau’n gwella lles cymunedol hefyd trwy bartneriaethau lleol, rhaglenni addysgol, a mentrau cwsmeriaid – gan ddefnyddio gwybodaeth leol i gynorthwyo rhai o’r ardaloedd lle mae’r angen ar ei fwyaf.

I gael rhagor o fanylion am sut aethom ni ati i ddatblygu cymunedau gwydn yng Nghasnewydd, cliciwch isod.

Astudiaethau Achos
Cronfa Ddŵr Ynys y Fro

Buddsoddwyd £10 miliwn i uwchraddio’r gorlifan yng Nghronfa Ddŵr Ynys y Fro. Dyma’r gorlifan sy’n cael ei ddefnyddio i reoli lefelau dŵr yn y gronfa ddŵr yn ddiogel. Mae’n caniatáu i ddŵr gormodol nad yw’n cael ei ddefnyddio at dibenion cyflenwi basio o amgylch yr argae’n ddiogel. Mae’n helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd, felly trwy fuddsoddi yn yr ased hwn, gallwn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i’r gymuned gyfan.

Eicon glas o donnau i ddangos dŵr
Astudiaethau Achos
Meithrin Gwytnwch Rhwydwaith Dŵr Yfed Casnewydd

Rydyn ni wrthi’n buddsoddi dros £16 miliwn yng ngorllewin Casnewydd. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys adnewyddu 7.5km a dadgomisiynu 7.5km o bibellau dŵr. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd y dŵr yfed ar gyfer y cymunedau hynny, bydd yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau, ac yn lliniaru’r problemau y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu profi o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel hefyd.