Rhondda Cynon Taff
Trosolwg

Mae Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru ac mae’n cwmpasu tua 164 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o dros 237,000. Y brif afon sy’n llifo drwy Rondda Cynon Taf yw Afon Taf, sy’n cael ei ffurfio wrth i afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan uno ym Mannau Brycheiniog. Mae’n llifo trwy Bontypridd ac yn parhau i lawr i Fae Caerdydd.

Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 5 gwaith trin dŵr gwastraff a 3 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 1573km o garthffosydd a 1401km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Fi a Fy Nŵr Cymru

Mae Fi a Fy Nŵr Cymru yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n adio gwerth ychwanegol yn eich cymuned. Wedi ei hwyluso gan ein model nid-er-elw, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol, yn ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, yn cynnig help a chymorth ar gyfer aelwydydd, ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl i arbed dŵr. Dyma rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd i feithrin cymunedau llewyrchus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Cliciwch drwodd i ddarganfod mwy am rai o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu yn eich ardal.

Fi a Fy Nŵr Cymru

Mae Fi a Fy Nŵr Cymru yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n adio gwerth ychwanegol yn eich cymuned. Wedi ei hwyluso gan ein model nid-er-elw, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol, yn ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, yn cynnig help a chymorth ar gyfer aelwydydd, ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl i arbed dŵr. Dyma rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd i feithrin cymunedau llewyrchus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Cliciwch drwodd i ddarganfod mwy am rai o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu yn eich ardal.

Adnewyddu Gorlifan Cronfa Ddŵr Lluest Wen
Astudiaethau Achos
Cronfa Ddŵr Lluest Wen

Buddsoddwyd £9 miliwn i uwchraddio’r asedau yng Nghronfa Ddŵr Lluest Wen, sy’n gwasanaethu tua 15,000 o gwsmeriaid ar draws Cwm Rhondda Fach a’r ardaloedd cyfagos. Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r gorlifan, sef llithrfa’r y gronfa ddŵr. Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddŵr gormodol o’r afon nad oes ei angen ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed basio’n ddiogel o amgylch yr argae. Mae cadw’r ased hwn mewn cyflwr da yn hanfodol am ei fod yn helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd ac yn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i’r gymuned gyfan. Cymerodd y gwaith tua dwy flynedd i’w gwblhau.

Eicon glas o donnau i ddangos dŵr
Astudiaethau Achos
Lleihau gweithrediad y Gorlif Storm yng Nglynrhedynog

Rydyn ni’n buddsoddi £7 miliwn er mwyn helpu i leihau amledd gweithrediad ein gorlif storm yng Nglynrhedynog. Er mwyn gwneud hyn, byddwn ni’n adeiladu tanc danddaear i storio rhagor o ddŵr glaw adeg stormydd trwm. Pan fydd y system yn gallu ymdopi eto, caiff y dŵr ei ryddhau’n raddol bach i’r garthffos mewn ffordd sy’n ddiogel a dan reolaeth, cyn ei gludo ymlaen i weithfeydd trin dŵr gwastraff cyfagos i gael ei drin.

Astudiaethau Achos
Cronfa Ddŵr Clydach

Rydyn ni’n buddsoddi £6 miliwn i ddychwelyd cronfa ddŵr Clydach i fod yn debyg i’w chyflwr naturiol, gan fanteisio ar y cyfle i wella’r amgylchedd lleol trwy leihau effaith y strwythur gwneud yma ar ecoleg a bioamrywiaeth lleol. Mae hyn yn golygu lleihau lefelau’r dŵr er mwyn creu dyfrffordd naturiol trwy’r ardal lle mae’r gronfa ar hyn o bryd.