Vale of Glamorgan
Trosolwg

Mae Bro Morgannwg yn ne Cymru ac mae’n cwmpasu tua 128 milltir sgwâr, â phoblogaeth o tua 132,000. Mae sawl afon ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Afon Ddawan sy’n llifo trwy Bont-faen ac i mewn i Fôr Hafren, Afon Elai sy’n llifo trwy ran ddwyreiniol y Fro ac i mewn i Fae Caerdydd, ac Afon Ogwr sy’n rhan o ffin orllewinol y Fro.

Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 16 o weithfeydd trin dŵr gwastraff, yn ogystal â 984km o garthffosydd a 1020km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Fi a Fy Nŵr Cymru

Mae Fi a Fy Nŵr Cymru yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n adio gwerth ychwanegol yn eich cymuned. Wedi ei hwyluso gan ein model nid-er-elw, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol, yn ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, yn cynnig help a chymorth ar gyfer aelwydydd, ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl i arbed dŵr. Dyma rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd i feithrin cymunedau llewyrchus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Cliciwch drwodd i ddarganfod mwy am rai o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu yn eich ardal.

Eicon glas o donnau i ddangos dŵr
Astudiaethau Achos
Gwella Gweithrediad y Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn Llan-faes

Gwnaethom waith yn Llan-faes i wella sut mae’r rhwydwaith dŵr gwastraff yn gweithredu yn y pentref, ac i helpu i leihau’r risg o lifogydd carthffosydd mewnol yn yr ardal. Gwnaethom hyn trwy selio ac ail-leinio rhannau o’r rhwydwaith gwastraff, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol o leinio carthffosydd yn ogystal â thechneg arloesol a oedd yn caniatáu i ni leihau’r anghyfleustra i’r gymuned ehangach.

Eicon glas o donnau i ddangos dŵr
Astudiaethau Achos
Meithrin Gwytnwch Rhwydwaith Dŵr Yfed y Barri

Rydyn ni wrthi’n buddsoddi tua £14 miliwn yn y Barri a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r buddsoddiad yma’n cynnwys disodli 5.5km, glanhau 3.4km a dadgomisiynu 5.2km o bibellau dŵr. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd y dŵr yfed ar gyfer y cymunedau hynny, bydd yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau, ac yn lliniaru’r problemau y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu profi o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel hefyd.