
Mae Sir Henffordd yng ngorllewin canolbarth Lloegr yn cwmpasu tua 842 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o ryw 187,000. Mae llawer o afonydd nodedig sy’n llifo trwy Swydd Henffordd, gan gynnwys Afon Gwy, un o afonydd hiraf y DU sy’n 135 milltir o hyd. Mae’n llifo trwy Henffordd a Rhosan ar Wy ac mae’n adnabyddus am ei harddwch a’i phwysigrwydd i ecosystemau lleol.
Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 86 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a 5 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 980km o garthffosydd a 2527km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein ffocws ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Yn 2023, cwnlhawyd buddsoddiad o £3.5 miliwn i uwchraddio’r asedau dŵr gwastraff yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Weobley. Y prif welliant yoeddcyflwyno proses a fydd yn tynnu ffosfforws o’r dŵr gwastraff wedi’i drin a fydd yn helpu i leihau’r lefelau yn Newbridge Brook gerllaw – a fydd yn ei dro yn llesol i ansawdd yr afon a’i bywyd dyfrol. Digwyddodd y gwaith o fewn ffiniau’r gwaith trin sydd ger Heol Kington yn Weobley.
Buddsoddwyd £8 miliwn i uwchraddio’r ffordd y mae’r rhwydwaith dŵr gwastraff yn gweithredu yn Norton a Llanandras. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu gorsaf bwmpio newydd sbon yng ngwaith trin dŵr gwastraff Norton ac uwchraddio’r asedau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanandras. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, mae hyn wedi caniatáu i’r gwastraff o Norton gael ei bwmpio i Lanandras i gael ei drin. Roedd y gwaith yn cynnwys cyflwyno proses sy’n tynnu ffosfforws o’r dŵr gwastraff wedi’i drin, a fydd yn helpu i leihau’r lefelau yn Norton Brook ac Afon Llugwy gerllaw – a fydd yn ei dro yn llesol i’w fywyd dyfrol.

Fe wnaethom fuddsoddi £27 miliwn i leihau ffosfforws a ryddhawyd o waith trin dŵr gwastraff Eign a Rotherwas yn Henffordd. Mae’r buddsoddiad hwn wedi gweld gosod y dechnoleg a’r offer diweddaraf a fydd yn ein galluogi i wella ymhellach ansawdd y dŵr sy’n cael ei ryddhau yn ôl i’r amgylchedd, gan fod o fudd i ansawdd afon Gwy a’i bywyd dyfrol.