Abertawe
Trosolwg

Abertawe yw dinas fwyaf ond un Cymru, ac mae bron i 250,000 o bobl yn byw yno. Mae ganddi arwynebedd o 145 o filltiroedd sgwâr, ac mae’n gartref i 3 traeth Baner Las, marina Baner Las a morlin Penrhyn Gŵyr.

Fel cwmni, mae gan Ddŵr Cymru 14 o weithfeydd trin dŵr gwastraff ac un gwaith trin dŵr ledled Abertawe, yn ogystal â 1,675km o garthffosydd a 1,429km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Abertawe yn canolbwyntio ar ddiogelu a gwella’r amgylchedd drwy leihau effaith ein systemau gorlif storm ac uwchraddio ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn y sir. Yn ogystal, ein nod yw gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy uwchraddio ein gweithfeydd trin dŵr a’n rhwydwaith dŵr yfed.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Astudiaethau Achos  
Gwella cydnerthedd dulliau trin dŵr yn Felindre

Rydyn ni wedi buddsoddi dros £30 miliwn i wella’r broses a ddefnyddir yng Ngwaith Trin Dŵr y Felindre a gwytnwch y safle. Dechreuodd y prosiect yn 2022, ac mae’n cynnwys gwaith sylweddol i adnewyddu’r safle a gwaith uwchraddio cam wrth gam ar y tanciau dŵr terfynol er mwyn sicrhau cyflenwad dŵr dibynadwy ar gyfer y dyfodol.

Astudiaethau Achos  
Diogelu ein rhwydwaith dŵr yn ardal Gŵyr

Ym mis Mai 2023, buddsoddwyd £1 filiwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yfed yn West Cross a Phenlle’r-gaer. Gosodwyd 1,000 metr o brif bibellau dŵr newydd a glanhau 6,054 metr o bibellau eraill, gan sicrhau cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid.