Blaenau Gwent
Trosolwg

Mae Blaenau Gwent yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru ac yn gorchuddio tua 42 milltir sgwâr, â phoblogaeth o tua 67,000. Mae’r prif afonydd sy’n llifo trwy Flaenau Gwent yn cynnwys Afon Ebwy, Afon Ebwy Fach ac Afon Sirhywi.

Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 4 gwaith trin dŵr gwastraff a 3 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 609 cilomedr o garthffosydd a 477 cilomedr o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir hon.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Llun o waith yn cael ei wneud ar Gronfa Ddŵr Carno Uchaf
Astudiaethau Achos
Cronfa Ddŵr Carno Uchaf

Buddsoddwyd tua £15 miliwn i gryfhau ac uwchraddio’r asedau yng nghronfa ddŵr Carno Uchaf, ar gyrion Glynebwy. Roedd y gwaith ar y safle’n cynnwys gwneud gwelliannau a fydd yn caniatáu i ni ostwng lefel dŵr y gronfa yn gyflym, gan helpu i leihau effeithiau llifogydd a chaniatáu i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei wneud yn ddiogel. Roedd hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r sianeli draenio dŵr sy’n llifo o amgylch yr argae.

Roedd y buddsoddiad hefyd yn cynnwys creu llithfa newydd sbon, a fydd yn caniatáu i ddŵr dros ben nad yw’n cael ei ddefnyddio fel cyflenwad i lifo o gwmpas yr argae yn ddiogel. Bydd hyn yn helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd ac yn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o wastraff ar gyfer y gymuned gyfan.