
Mae Bro Morgannwg yn ne Cymru ac mae’n cwmpasu tua 128 milltir sgwâr, â phoblogaeth o tua 132,000. Mae sawl afon ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Afon Ddawan sy’n llifo trwy Bont-faen ac i mewn i Fôr Hafren, Afon Elai sy’n llifo trwy ran ddwyreiniol y Fro ac i mewn i Fae Caerdydd, ac Afon Ogwr sy’n rhan o ffin orllewinol y Fro.
Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 16 o weithfeydd trin dŵr gwastraff, yn ogystal â 984km o garthffosydd a 1020km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.
Gwnaethom waith yn Llan-faes i wella sut mae’r rhwydwaith dŵr gwastraff yn gweithredu yn y pentref, ac i helpu i leihau’r risg o lifogydd carthffosydd mewnol yn yr ardal. Gwnaethom hyn trwy selio ac ail-leinio rhannau o’r rhwydwaith gwastraff, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol o leinio carthffosydd yn ogystal â thechneg arloesol a oedd yn caniatáu i ni leihau’r anghyfleustra i’r gymuned ehangach.