
Mae Caerdydd yn ne Cymru yn gorchuddio tua 54 milltir sgwâr, â phoblogaeth o tua 495,000. Mae sawl afon syng Nghaerdydd, gan gynnwys Afon Taf sy’n llifo drwy ganol y ddinas ac i mewn i Fae Caerdydd, ac Afon Elái sy’n llifo tua’r de-ddwyrain o Donyrefail trwy orllewin Caerdydd i Fôr Hafren.
Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 6 gwaith trin dŵr gwastraff, yn ogystal â 2276 cilomedr o garthffosydd a 1533km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y 5 mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi at y dyfodol, gan barhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.
Rydym wedi buddsoddi £7.8 miliwn i uwchraddio’r pibellau dŵr yn Llanisien a’r cyffiniau, gan ddisodli tua 3.7km o bibellau. Bydd y gwaith hanfodol yma’n helpu i wella’r rhwydwaith dŵr yfed ac yn cadw’r dŵr yn llifo.

Fel y cwmni dŵr a dŵr gwastraff lleol, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i gefnogi datblygiadau tai newydd wrth ddiogelu’r amgylchedd lleol a sicrhau nad yw hynny’n effeithio ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer ein cwsmeriaid presennol. Gan gydweithio’n agos a’r awdurdod lleol, datblygwr lleol a’r gymuned, rydyn ni wedi bod yn cyflawni gwaith yn Danescourt a Pharc Hailey er mwyn sicrhau bod gan rwydwaith dŵr gwastraff Caerdydd y capasiti i wasanaethu’r gymuned ehangach wrth i’r datblygiad fynd rhagddo. Mae’r gwaith yn cynnwys adeiladu gorsaf bwmpio fach ym Mharc Hailey a gwneud gwelliannau i’n rhwydwaith gwastraff er mwyn sicrhau bod y dŵr gwastraff ychwanegol yn cael ei bwmpio’n ddiogel i’n Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yng Nghaerdydd.