Caerffili
Trosolwg

Mae Caerffili  yn ne Cymru ac yn gorchuddio tua 107 milltir sgwâr, â phoblogaeth o tua 176,000. Afon Rhymni, Afon Ebwy ac Afon Sirhywi yw’r prif afonydd sy’n llifo trwy Gaerffili.

Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 1 gwaith trin dŵr gwastraff, yn ogystal â 1513 cilomedr o garthffosydd a 1072 cilomedr o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y 5 mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi at y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Astudiaethau Achos
Astudiaethau Achos
Datblygu gwytnwch rhwydwaith dŵr yfed Rhymni

Buddsoddwyd £10 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yfed yn Rhymni, Deri a’r cyffiniau, gan adnewyddu tua 13 cilomedr o bibellau. Bydd y gwaith hanfodol yma’n helpu i wella’r rhwydwaith dŵr yfed ac yn cadw dŵr yn llifo ar gyfer y gymuned.

Yn ystod y prosiect hwn, treialwyd generadur hybrid a oedd yn defnyddio Olew Llysiau wedi’i Drin â Hydro (HVO) a batris i bweru swyddfeydd, ystafelloedd sychu a thoiledau ar un safleoedd gwaith mwyaf y prosiect. Caniataodd y defnydd o fatri blaengar, ochr yn ochr â generadur i bweru’r safle, i ni leihau maint a chyfnod rhedeg y generadur o 55%. Roedd hyn yn golygu bod y safle’n rhedeg ar bŵer batri yn unig am gyfartaledd o 12 awr a hanner y dydd, gan greu safle distaw hen unrhyw allyriadau.

I ddiolch i’r gymuned leol wrth iddynt wneud y gwaith, dyfarnwyd dros £7,000 i grwpiau cymunedol yn Rhymni a Bargoed trwy ein Cronfa Gymunedol, a rhoddwyd £5,000 pellach i’r banc bwyd lleol.