
Mae Casnewydd yn ne-ddwyrain Cymru ac mae’n cwmpasu tua 73 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o tua 159,000. Mae sawl afon yng Nghasnewydd, gan gynnwys Afon Wysg sy’n llifo trwy ganol y ddinas ac i mewn i aber Afon Hafren.
Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 5 gwaith trin dŵr gwastraff ac 1 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 1138km o garthffosydd a 864km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.
Mae ein gwaith yn ymestyn y tu hwnt i hetiau caled a rhawiau, gyda’n timau’n gwella lles cymunedol hefyd trwy bartneriaethau lleol, rhaglenni addysgol, a mentrau cwsmeriaid – gan ddefnyddio gwybodaeth leol i gynorthwyo rhai o’r ardaloedd lle mae’r angen ar ei fwyaf.
I gael rhagor o fanylion am sut aethom ni ati i ddatblygu cymunedau gwydn yng Nghasnewydd, cliciwch isod.

Buddsoddwyd £10 miliwn i uwchraddio’r gorlifan yng Nghronfa Ddŵr Ynys y Fro. Dyma’r gorlifan sy’n cael ei ddefnyddio i reoli lefelau dŵr yn y gronfa ddŵr yn ddiogel. Mae’n caniatáu i ddŵr gormodol nad yw’n cael ei ddefnyddio at dibenion cyflenwi basio o amgylch yr argae’n ddiogel. Mae’n helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd, felly trwy fuddsoddi yn yr ased hwn, gallwn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i’r gymuned gyfan.