
Mae Castell-nedd Port Talbot yn ne-orllewin Cymru yn gartref i dros 141,000 ac mae’n enwog am ei threftadaeth ddiwylliannol a’i thirlun amrywiol. Mae Dŵr Cymru’n gweithredu 8 cyfleuster trin dŵr gwastraff yn ardal Castell-nedd Port Talbot, gan reoli 1,011km o garthffosydd a 964km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn canolbwyntio ar ddiogelu a gwella’r amgylchedd drwy leihau effaith systemau gorlif storm ac uwchraddio ein cyfleusterau trin dŵr gwastraff yn y rhanbarth. Yn ogystal, ein nod yw gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed drwy sicrhau bod cronfeydd dŵr lleol yn addas at y dyfodol.

Rydym yn buddsoddi £8.2 miliwn i gynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol yng Nghronfa Ddŵr Cwmwernderi ym Mryn, Port Talbot. Fel rhan o’r prosiect, byddwn yn gosod pibellwaith a falfiau newydd, ac yn dymchwel y tŵr. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n helpu i ddatblygu gwytnwch ein rhwydwaith dŵr.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Rydyn ni wedi buddsoddi £10.3 miliwn i adnewyddu a glanhau 26.1km o bibellau dŵr yn ardal Port Talbot. Gwnaed ein gwaith hanfodol, a gwblhawyd ar ddiwedd mis Tachwedd 2022, ym Mryn, Baglan a Chwmafan, gan sicrhau y gallwn ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân i’n cwsmeriaid yn yr ardal am flynyddoedd i ddod.