Ceredigion
Trosolwg

Mae dros 72,000 o bobl yn byw yng Ngheredigion yng ngorllewin Cymru, ac mae’r ardal yn cynnwys 50 milltir o forlin ac ACA Afon Teifi. Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 47 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a 4 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 484km o garthffosydd a 1,564km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir hon.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi at dyfodol a bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Ceredigion yn anelu at wella gywtnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy osod pibellau dŵr newydd yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan broblemau â’r cyflenwad w, yn ogystal â diogelu a gwella’r amgylchedd drwy geisio lleihau ein heffaith ar ACA Afon Teifi.

Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol
Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi

Rydyn ni’n buddsoddi dros £20 miliwn i uwchraddio’r broses drin yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi. Ar ôl ei gwblhau, nod ein gwaith yw lliniaru ein heffaith ar yr amgylchedd a gwella ansawdd dŵr Afon Teifi.

Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol
Buddsoddi er mwyn datblygu gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn Llechryd

Rydyn ni’n buddsoddi £5.6 miliwn i uwchraddio bron i 25km o bibellau dŵr yn Llechryd, gan gynnwys Rhydlewis, Sarnau a Cross Inn. Bydd y gwaith yma’n gwella’r rhwydwaith dŵr yfed ac yn datblygu gwytnwch yn yr ardal.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Astudiaeth Achos
Diogelu ein rhwydwaith dŵr yn Aberystwyth

Ym mis Gorffennaf 2022, gwnaethom fuddsoddiad o £3.4 miliwn yn rhwydwaith dŵr yfed Aberystwyth. Roedd hyn yn cynnwys gwaith uwchraddio gwerth £1.6m yng Ngwaith Trin Dŵr Cefn Llan, ac £1.8m ar y rhwydwaith cyflenwi dŵr er mwyn sicrhau cyflenwad dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer y dyfodol.

Astudiaeth Achos
Diogelu cartrefi Aberteifi rhag y risg y bydd carthffosydd yn gorlifo

Rhwng hydref 2021 a haf 2022, buddsoddwyd £3.7 miliwn i uwchraddio’r system dŵr gwastraff yn rhan isaf tref Aberteifi er mwyn helpu i leihau’r risg o orlifoedd carthion. Roedd y prosiect yn cynnwys gosod tua 250 metr o bibellau