
Mae daearyddiaeth Conwy wedi ei nodweddu gan Afon Conwy, sy’n creu dyffryn llydan ar hyd rhan orllewinol y sir. Mae Mynydd Hiraethog ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri yn y gorllewin. Mae sawl cronfa ddŵr o fewn y dyffrynnoedd hyn, a’r mwyaf ohonynt yw Llyn Brenig, sy’n cwmpasu arwynebedd o 3.7 cilomedr sgwâr ac yn ymestyn i mewn i Sir Ddinbych.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi at y dyfodol, a nod ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Conwy fydd gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy adnewyddu pibellau dŵr mewn ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan broblemau cyflenwi, yn ogystal ag amddiffyn a gwella’r amgylchedd trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein safleoedd trin dŵr gwastraff.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Mae Cronfa Ddŵr Dolwen wrth ymyl pentref Llanefydd yn Sir Conwy. Mae’r gronfa ddŵr yn helpu i fwydo cronfa ddŵr Plas Uchaf, sydd yn ei dro, yn cyflenwi dŵr ar gyfer ein gweithfeydd trin dŵr yng Nglasgoed ger Bodelwyddan. Mae Glasgoed yn darparu dŵr yfed ar gyfer Bodelwyddan, Bae Cinmel, y Rhyl a’r ardaloedd cyfagos.
Yn haf 2019, fe fuddsoddon ni dros £5 miliwn mewn gwaith i adnewyddu’r hen lithrffordd trwy greu gorlifan fwy llydan a dwfn, yn ogystal â gosod basn cadw ar waelod y llithrfa. Mae hyn yn helpu i reoli llif y dŵr i mewn i’r gronfa er mwyn darparu dŵr yfed ar gyfer yr ardal leol.

Fe fuddsoddon ni £1.2 miliwn mewn gwaith i atgyweirio a gwella pont bibell Dolgarrog, sy’n croesi Afon Conwy. Yn ogystal â chario’r pibellau dŵr yfed dros yr afon, mae’r bont yn cysylltu pentref Dolgarrog â’r orsaf drenau hefyd.
Yn sgil ein gwaith i wella’r bont, rydyn ni wedi creu llwybr teithio llesol i gerddwyr a beicwyr ei fwynhau hefyd.