Y Gronfa Gymunedol

Yn 2017, lansiwyd ein Cronfa Gymunedol ar gyfer prosiectau sy’n cynorthwyo gwelliannau i’r amgylchedd, iechyd a lles. Gall y prosiectau hyn ymgeisio am rhwng £250 a £1000 i helpu i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol. Mae’r Gronfa bellach wedi darparu dros £450,000 ar gyfer elusennau a sefydliadau cymunedol ar draws ein hardal weithredu.

Mae Cronfa Amgylcheddol Dŵr Cymru wedi dosbarthu cyfanswm o £3m o gyllid ar gyfer prosiectau amgylcheddol ar draws Cymru, ac mae hi’n agored i geisiadau. Mae’r gronfa’n darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau er budd bioamrywiaeth a byd natur, gyda ffocws ar helpu i feithrin ymgysylltiad cymunedau â’u hamgylchedd lleol.

Yn dilyn peilot llwyddiannus yn 2015-2020, rydyn ni wedi ehangu ein prosiectau Cymunedau Gwydn o ran Dŵr, gan dargedu’r cymunedau sydd â sgôr wael ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a lle mae cyfran is na’r cyfartaledd yn manteisio ar dariffau cymdeithasol. Mae’r prosiectau wedi ein galluogi ni i dargedu gweithgarwch ar draws ardal ddaearyddol lai, gan weithio gyda grwpiau cymunedol ac unigolion i ledu’r gair am dariffau cymdeithasol, darparu cymorth ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith, cyfoethogi ein gweithgarwch addysg, a darparu cyngor wedi ei dargedu ar ddyledion ac effeithlonrwydd dŵr. Yn 2020-2025, fe dargedon ni’r Rhyl yn y gogledd, rhan ogleddol Cwm Rhymni, a gorllewin Casnewydd.