Amgylchedd
Cwsmeriaid
Gwasanaethau
Ein Blaenoriaethau

Yn Dŵr Cymru, ein blaenoriaeth yw darparu’r gwasanaeth gorau y gallwn i’n cwsmeriaid a’r amgylchedd ar gyflymdra sy’n gynaliadwy, am bris sy’n fforddiadwy, a chan wneud penderfyniadau a fydd yn sefyll prawf amser ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Cynllun Busnes 2025-2030 yn cynrychioli rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed y cwmni. Mae’n amlinellu blaenoriaethau, prosiectau, cynlluniau a gwelliannau sylweddol.

Beth fyddwn ni'n wneud:
  • Diogelu a gwella'r amgylchedd naturiol o'n cwmpas
  • Rhoi ein cwsmeriaid a'n cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn
  • Darparu gwasanaethau gwell i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf
Amgylchedd

Un flaenoriaeth allweddol nid yn unig dros y pum mlynedd nesaf ond dros nifer o gynlluniau rheoli asedau yw mabwysiadu dull cydweithredol o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, yn enwedig wrth chwarae ein rhan wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonydd.

Mae hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn buddsoddi i ddiogelu a chynnal yr amgylchedd ac i addasu at heriau amgylcheddol y dyfodol fel newid hinsawdd, gwarchod bioamrywiaeth a lleihau niwed amgylcheddol o’n gweithrediadau.

Cwsmeriaid

Yn Dŵr Cymru, ein gweledigaeth yw ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud newid parhaol, mae’r cynlluniau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith yn yr hirdymor yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau gwirioneddol, cynaliadwy i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau.

Ond rydyn ni’n gwybod bod hyn yn achosi biliau uwch, ac rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod ein gwasanaethau yn fforddiadwy i bawb.  Rydyn ni wedi ymrwymo i gynorthwyo cwsmeriaid sydd angen help ychwanegol – boed hynny oherwydd heriau ariannol, anhwylderau iechyd, oedran, anabledd, neu wendidau eraill.

Gwasanaethau

Ein nod yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid bob amser. Rydyn ni’n cydnabod nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn a bod angen i ni wneud mwy, mae’r cynllun busnes yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwella ein seilwaith, gwella ein perfformiad a’n darpariaeth gwasanaethau, a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein cyflenwadau dŵr ar gyfer nawr a’r tymor hwy.