Helpwch i lywio dyfodol Dŵr Cymru
Mae ein Strategaeth ddrafft yn pennu ein cyfeiriad ar gyfer 2030 i 2055. Mae’n esbonio sut rydyn ni am wella gwasanaethau dŵr, amddiffyn yr amgylchedd, a chynorthwyo’r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gwybod fod angen i ni wella perfformiad ac adfer hyder pobl ynom. Yr un pryd, rhaid i ni baratoi ar gyfer sialensiau fel newid hinsawdd a phibellau a gweithfeydd trin sy’n heneiddio, a hynny oll wrth gadw biliau’n fforddiadwy.
Mae dŵr yn hanfodol i bob cartref, cymuned a busnes a wasanaethwn. Mae ein gwasanaethau’n chwarae rhan annatod wrth ddarparu amgylchedd dŵr glân ac ecosystemau dyfrol llewyrchus a fydd yn cynnal dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i Gymru a’r holl ardaloedd a wasanaethwn.
Mae cwsmeriaid a chymunedau’n dibynnu arnom ni i ddarparu digonedd o ddŵr diogel, trin a gwaredu dŵr gwastraff a charthion, a rheoli seilwaith hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ond adeg ysgrifennu, rydyn ni’n syrthio’n brin o’r gofynion sylfaenol, mae llawer o asedau mewn cyflwr gwael, ac mae’r sialensiau amgylcheddol yn cynyddu. Mae penderfyniadau anodd o’n blaenau ni.
Mae’r Strategaeth hon yn cynnig cyfeiriad hirdymor ar gyfer Dŵr Cymru. Mae’n esbonio’r deilliannau y mae cwsmeriaid am i ni eu cyflawni, y dewisiadau y bydd angen i ni eu gwneud, a sut byddwn ni’n cynllunio cyfeiriad gwell ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni am i gwsmeriaid gael dŵr yfed diogel a chyflenwadau y gallant ddibynnu arnynt. Mae hynny’n golygu lleihau gollyngiadau, cynnal ein rhwydweithiau, a pharatoi ar gyfer sychder, tywydd eithafol a newidiadau yn y galw.
Rydyn ni am leihau llygredd a gwella gwasanaethau dŵr gwastraff er mwyn helpu i amddiffyn afonydd, traethau a bywyd gwyllt. Bydd gweithio gyda phobl eraill a defnyddio atebion naturiol lle bo hynny’n briodol yn ein helpu ni i fynd at wraidd problemau i’w taclo
Rydyn ni am i’n gwasanaethau fod yn hawdd eu defnyddio, gyda gwybodaeth glir a chymorth defnyddiol pan fo pethau’n mynd o’u lle. Bydd cadw biliau’n fforddiadwy a chynorthwyo cwsmeriaid sydd angen ychydig bach o gymorth ychwanegol yn parhau i fod wrth galon ein cynlluniau.
Byddwn ni’n canolbwyntio ar gael yr hanfodion yn gywir yn gyntaf. Byddwn ni’n buddsoddi hefyd er mwyn atal problemau a pharatoi ein hatebion ar gyfer y dyfodol. Bydd safonau uwch yn dibynnu ar ymhle y mae eu hangen nhw, cefnogaeth cwsmeriaid, fforddiadwyedd a beth y gallwn ei gyflawni’n realistaidd.
Mae rhai gwelliannau’n gofyn am weithredu y tu hwnt i Ddŵr Cymru. Byddwn ni’n gweithio gyda chwsmeriaid, cymunedau, sefydliadau partner, llywodraethau a rheoleiddwyr i gydlynu cynlluniau, taclo sialensiau cyffredin a chynorthwyo newidiadau ehangach sy’n ein helpu ni i gyflawni canlyniadau gwell.
Mae gwasanaethau dibynadwy yn dibynnu ar bobl fedrus, pibellau a gweithfeydd trin sy’n cael eu cynnal yn dda, a thechnoleg a systemau effeithiol. Bydd cryfhau’r sylfaeni hyn yn ein helpu ni i ganfod risgiau’n gynt, gwneud penderfyniadau gwell a chyflawni gwelliannau parhaus.
Bydd eich adborth chi’n ein helpu ni i fireinio’r Strategaeth ddrafft cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol. Dywedwch wrthym beth sydd bwysicaf i chi, a yw ein blaenoriaethau’n teimlo’n iawn, a beth rydych chi’n meddwl sydd ar goll.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 15th Hydref i 15th Tachwedd.
Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori gyflawn
Llenwch holiadur yr ymgynghoriad
Gallwch hefyd rannu eich barn drwy anfon e-bost [email protected]