Gorllewin sir gaer a chaer
Trosolwg

Dinas gadeiriol ar lannau Afon Dyfrdwy, yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Caer.  Gyda phoblogaeth o 92,760 ym mhrif ran y ddinas yn 2021, hi yw anheddiad mwyaf poblog bwrdeistref Gorllewin Sir Gaer a Chaer.

Mae Caer yn adnabyddus am ei hanes cyfoethog, a chanddi hi mae’r muriau dinas mwyaf cyflawn, y cae ras hynaf, a’r Amffitheatr Rufeinig fwyaf ym Mhrydain, yn ogystal â Chadeirlan sy’n 1000 o flynyddoedd oed.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n buddsoddi at y dyfodol yn y sir er mwyn helpu i amddiffyn a gwella’r amgylchedd trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar wella ein safleoedd trin dŵr gwastraff.

Y Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Gweithfeydd trin Dŵr Gwastraff Caer
Astudiaethau Achos
Gwaith trin dŵr gwastraff Farndon

Rydyn ni’n cyflawni gwaith gwella yn ein gwaith trin dŵr gwastraff yn Farndon er mwyn gwella ansawdd y dŵr wedi ei drin cyn iddo gael ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i wella ansawdd y dŵr yn Afon Dyfrdwy sydd gerllaw.

Gweithfeydd trin Dŵr Gwastraff Caer
Astudiaethau Achos
Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Caer

Rydyn ni wrthi’n buddsoddi yng gwaith trin Dŵr Gwastraff Caer er mwyn gosod tanc dŵr storm ar y safle. Bydd y buddsoddiad yma’n helpu i gynyddu’r capasiti storio ar y safle mewn cyfnodau o law trwm er mwyn helpu i amddiffyn yr amgylchedd lleol.