Gwynedd
Trosolwg

Mae Gwynedd yn adnabyddus am ei daearyddiaeth fynyddig, gan gynnwys rhan helaeth o Eryri, y Parc Cenedlaethol lle mae mynydd uchaf Cymru, yr Wyddfa, sy’n 3,560 troedfedd o uchder. Mae arfordir gorllewinol y sir yn un hir, ac mae’n cynnwys holl brydferthwch Penrhyn Llŷn. Mae rhan helaeth o’r sir yn wledig iawn, a dinas prifysgol Bangor yw ei hanheddiad mwyaf.

Mae gan y sir boblogaeth o tua 117,591 ac arwynebedd o 979 milltir sgwâr. Mae ganddi’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl siroedd Cymru, gyda 64.4% o’r boblogaeth yn medru’r iaith.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein ffocws ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, a nod ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Gwynedd fydd gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy adnewyddu pibellau dŵr mewn ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan broblemau cyflenwi, yn ogystal ag amddiffyn a gwella’r amgylchedd trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein safleoedd trin dŵr gwastraff.

Y Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Astudiaethau Achos
Lôn Glan Môr, Bangor

Rydyn ni wrthi’n buddsoddi £19 miliwn yn Lôn Glan Môr ym Mangor er mwyn helpu i wella ansawdd dŵr Afon Menai. Mewn glaw trwm, mae’r dŵr wyneb ychwanegol a’r dŵr gwastraff  o’r ardal yn cael ei storio mewn tanc gorlif storm yn ein gorsaf bwmpio ar Lôn Glan Môr, ond mewn cyfnodau o dywydd garw iawn, os yw’r tanc yn llawn ac yn methu â chymryd rhagor o ddŵr, mae’r dŵr yn llifo allan o’r gorlif storm ac i mewn i’r bae.

Er mwyn helpu i amddiffyn yr amgylchedd lleol a dŵr yr afon, sy’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Afon Menai, rydyn ni’n creu tanc storio danddaear a fydd yn dal y llif nes bod lle yn y rhwydwaith er mwyn helpu i gwtogi ar ddefnydd o’r gorlif storm.

Astudiaethau Achos
Gwaith Trin Dŵr Gwastraff y Bala

Rydyn ni wedi buddsoddi dros £6 miliwn yn ein gwaith trin dŵr gwastraff yn y Bala.

Cynyddodd y buddsoddiad yma ar y safle gapasiti a gallu’r safle i drin dŵr gwastraff,  a fydd yn fuddiol i’r gymuned leol, i ddatblygiad ac i’r amgylchedd. Mae’r gwaith wedi helpu i wella ansawdd dŵr yr afon hefyd, yn ogystal â helpu i ddarparu ar gyfer twf yn yr ardal yn y dyfodol.