
Mae Merthyr Tudful yng nghymoedd y de ac mae’n cwmpasu tua 43 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o tua 58,000. Mae sawl afon yn llifo trwy Ferthyr Tudful, gan gynnwys Afon Taf sy’n ffurfio ychydig i’r gogledd o’r dref ac sy’n llifo trwy’r fwrdeistref cyn parhau i lawr i Fae Caerdydd.
Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 3 gwaith trin dŵr gwastraff a 2 waith trin dŵr, yn ogystal â 463km o garthffosydd a 466km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir hon.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed, yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Buddsoddwyd dros £8 miliwn i adeiladu cronfa wasanaeth newydd sbon ym Mhengarn-ddu. Mae cronfa ddŵr eisoes ar y safle, ond trwy adeiladu’r gronfa ddŵr newydd – sydd wedi’i chladdu’n rhannol yn y dirwedd – bu modd cynyddu capasiti storio dŵr y rhwydwaith a lleihau’r tebygolrwydd o doriadau mewn cyflenwadau.
Yn ogystal ag adeiladu cronfa ddŵr newydd, roedd y prosiect hefyd yn cynnwys gosod pibellau newydd sbon sy’n cysylltu’r gronfa ddŵr â’r cyflenwad presennol, adeiladu cabanau i reoli’r gronfa ddŵr, a thŷ falfiau i storio asedau gweithredol. Roedd hefyd yn cynnwys gwaith helaeth i sicrhau bod mynediad diogel ar gael i’n timau gweithredol reoli’r asedau hyn o ddydd i ddydd a bod y safle yn gweddu i’w amgylchoedd.