
Yng nghanol de Cymru, mae bron i 140,000 o bobl yn byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Ar lannau Afon Ogwr, mae’n gartref i Barc Gwledig Bryngarw y rhoddwyd statws gradd II iddo a Gwarchodfa Natur Cynffig.
Fel cwmni, mae gan Dŵr Cymru 5 gwaith trin dŵr gwastraff ledled Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â 1,165km o garthffosydd a 894km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir hon.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn anelu at ddiogelu a gwella’r amgylchedd drwy ymdrechu i leihau effaith ein systemau gorlif storm yn yr ardal, yn ogystal â gwella cydnerthedd ein rhwydwaith dŵr yfed.

Rydym yn buddsoddi £2.5 miliwn ar hyn o bryd i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Pen y Bont. Fel rhan o’n gwaith hanfodol, rydym yn adnewyddu tanc sylfaenol sy’n bodoli eisoes yn y gwaith er mwyn rhoi mwy o gydnerthedd ar y safle, a disgwylir i’r gwaith hwn gael ei gwblhau yn ystod haf 2025. Yn dilyn hyn, rydym yn bwriadu buddsoddi £3 miliwn pellach i gynyddu ein cyfleusterau storio yn ystod stormydd ar y safle a bydd hyn yn ein helpu i ddiogelu’r cwrs dŵr lleol ac yn helpu i’w wella.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Gwnaethom fuddsoddi £6.1 miliwn yn ddiweddar i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yfed yn ardaloedd Maesteg, Cwm Garw a Phencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fel rhan o’r prosiect, cafodd 35.5km o bibellau dŵr eu glanhau neu eu hailosod, sef hyd 400 o gaeau pêl-droed. Cwblhawyd y gwaith hwn ar ddiwedd 2021.