Powys
Trosolwg

Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ag arwynebedd o 2,000 o filltiroedd sgwâr. Un o’i nodweddion amlycaf yw ei thirlun eang a gwledig, sy’n gartref i dros 133,000 o bobl. Mae’r ardal yn adnabyddus am fod yn gartref i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chronfeydd Dŵr Cwm Elan, ac mae sawl afon fawr yn llifo drwyddi, gan gynnwys afonydd Gwy, Hafren, Wysg a Llugwy.

Fel cwmni, mae gan Ddŵr Cymru 89 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a naw gwaith trin dŵr ledled Powys, yn ogystal â 530km o garthffosydd a 1,452km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Powys yn canolbwyntio ar ddiogelu a gwella’r amgylchedd trwy leihau effaith systemau gorlif storm ac uwchraddio ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn y sir. Yn ogystal, ein nod yw gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr drwy uwchraddio ein cronfeydd dŵr.

Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol  
Sicrhau bod Cronfa Ddŵr Wysg yn addas at y dyfodol

Rydyn ni’n buddsoddi £13.2 miliwn yng Nghronfa Ddŵr Wysg ger Trecastell. Yn rhan o’r prosiect hwn, byddwn ni’n gosod dau seiffon newydd i wella gallu’r argae i dynnu dŵr ac i sicrhau bod cyflenwadau dŵr yr ardal yn addas at y dyfodol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Astudiaethau Achos
Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Aberhonddu

Buddsoddwyd £9 miliwn i uwchraddio gwaith trin dŵr gwastraff Aberhonddu. Drwy’r buddsoddiad yma, cynyddwyd y capasiti trin er mwyn cynorthwyo twf cymunedol, a chyflwynwyd proses i dynnu ffosfforws o’r dŵr gwastraff wedi’i drin. Bydd lleihau’r ffosfforws yn helpu i atal gordyfiant o algâu yn afon Wysg, a fydd yn llesol i’r afon a’i bywyd dyfrol.