
Mae Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru ac mae’n cwmpasu tua 164 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o dros 237,000. Y brif afon sy’n llifo drwy Rondda Cynon Taf yw Afon Taf, sy’n cael ei ffurfio wrth i afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan uno ym Mannau Brycheiniog. Mae’n llifo trwy Bontypridd ac yn parhau i lawr i Fae Caerdydd.
Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 5 gwaith trin dŵr gwastraff a 3 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 1573km o garthffosydd a 1401km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Buddsoddwyd £9 miliwn i uwchraddio’r asedau yng Nghronfa Ddŵr Lluest Wen, sy’n gwasanaethu tua 15,000 o gwsmeriaid ar draws Cwm Rhondda Fach a’r ardaloedd cyfagos. Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r gorlifan, sef llithrfa’r y gronfa ddŵr. Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddŵr gormodol o’r afon nad oes ei angen ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed basio’n ddiogel o amgylch yr argae. Mae cadw’r ased hwn mewn cyflwr da yn hanfodol am ei fod yn helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd ac yn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i’r gymuned gyfan. Cymerodd y gwaith tua dwy flynedd i’w gwblhau.