
Yn enwog am ei morlin dramatig, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac ACA Afon Cleddau, Sir Benfro yn gartref i dros 123,000 o bobl, ac mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i’r ardal bob blwyddyn. Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 80 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a dau waith trin dŵr, yn ogystal â 904km o garthffosydd a 2,259km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein rhaglen buddsoddi ar gyfer Sir Benfro’n canolbwyntio ar welliannau amgylcheddol er mwyn helpu i leihau’r effaith ar ACA Afon Cleddau. Bydd y rhaglen hefyd yn anelu at wella gwytnwch y rhwydwaith dŵr yfed trwy osod pibellau dŵr newydd yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan doriadau mewn cyflenwadau dŵr.

Rydyn ni’n buddsoddi dros £4 miliwn i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Rosemarket. Bydd y broses drin newydd sy’n defnyddio cywasgydd biolegol sy’n cylchdroi (RBC) yn gwella ansawdd y dŵr wedi’i drin, a fydd yn llesol i Afon Cleddau.

Rydyn ni’n dyrannu £3.1 miliwn i uwchraddio tua 15km o bibellau dŵr ym mharth dŵr yfed Llechryd, sy’n cynnwys ardaloedd fel Star a Thegryn yn Sir Benfro. Nod y prosiect hanfodol yma yw gwella’r rhwydwaith dŵr yfed yn yr ardal a sicrhau cyflenwad dibynadwy o ddŵr.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Buddsoddwyd £4 miliwn i uwchraddio gorsaf bwmpio dŵr crai Pont Canaston yn ddiweddar, gan wella gwytnwch rhwydwaith cyflenwi dŵr Sir Benfro. Yn rhan o’r gwaith yma, adnewyddwyd yr orsaf, uwchraddiwyd y cyflenwad pŵer a dulliau rheoli cyflymder y pwmp. Dechreuodd y gwaith ym mis Medi 2023 a chafodd ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024.

Buddsoddwyd £5.5 miliwn i uwchraddio’r gwaith trin dŵr gwastraff yn Spittal, Sir Benfro, gan wella ansawdd dŵr yn Afon Cleddau. Mae’r gwelliannau yn cynnwys tynnu ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi’i drin, sy’n llesol i’r afon a’i bywyd dyfrol. Dechreuodd y prosiect ym mis Rhagfyr 2023 a daeth i ben ym mis Ebrill 2025.
Cwblhaodd ein tîm brosiect mawr o fudd cymunedol, gan dreulio amser yn ystod hanner tymor mis Hydref 2024 a gwanwyn 2025 yn Ysgol Gynradd Spittal. Cwblhawyd gwaith helaeth ar y tir a’r draeniau a gosodwyd darnau o graig ar gyfer prosiect Yr Hafan, gan greu ardal fyfyrio i’r disgyblion wella eu llesiant.