Sir Ddinbych
Trosolwg

Mae gan Sir Ddinbych arwynebedd o 326 milltir sgwâr a phoblogaeth o tua 95,800.

Mae Sir Ddinbych yn adnabyddus am ei thirweddau prydferth, gan gynnwys Dyffryn Clwyd, sydd wedi ei hamgylchynu gan fryniau hardd. Mae Bryniau Clwyd yn y dwyrain yn rhan o Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r sir yn gartref hefyd i nifer o gestyll canoloesol, fel Castell Dinbych, Castell Rhuthun, a Chastell Rhuddlan.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi at y dyfodol, a nod ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Sir Ddinbych fydd gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy adnewyddu pibellau dŵr mewn ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan broblemau cyflenwi, yn ogystal ag amddiffyn a gwella’r amgylchedd trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein safleoedd trin dŵr gwastraff.

Eicon glas o blanhigyn â dwy ddeilen
Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol
Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Tremeirchion

Yng ngwanwyn 2025, byddwn ni’n creu proses newydd sy’n seiliedig ar natur yng ngweithfeydd trin dŵr gwastraff Tremeirchion. Triniaeth Gwlyptir Adeiledig Integredig yw hwn a hi yw’r cyntaf o’i math i gael ei gosod yn y gogledd. Mae’n defnyddio pyllau gwlyptir (neu “gelloedd”) i lanhau’r dŵr cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd.

Rydyn ni’n edrych yn ymarferol ar opsiynau i greu atebion gwyrdd arloesol yn hytrach nac atebion ‘llwyd’ traddodiadol yn rhan o’n hymrwymiad i gwtogi ar ein hôl troed carbon a chynyddu bioamrywiaeth yn ein safleoedd dŵr gwastraff dros y 5 mlynedd nesaf, a hefyd i gyflawni’r targedau o ran ffosffadau a bennwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae’r treial gwlyptir arfaethedig yn Nhremeirchion wedi esblygu trwy gydweithio’n agos â CNC ar raglenni samplo a chydsyniadau, ac rydyn ni’n gobeithio y daw’r treial yn lasbrint ar gyfer atebion gwyrdd o fewn y sector gwastraff ehangach yn y dyfodol.

Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Tremeirchion
Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol
Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Corwen

Mae ein gwaith trin dŵr gwastraff yng Nghorwen yn glanhau ac yn trin dŵr gwastraff o bron i 2,000 o gartrefi a busnesau yn ardal Corwen, cyn dychwelyd y dŵr i Afon Dyfrdwy.

Mae’r gwaith trin dŵr gwastraff eisoes yn trin gwastraff i safon uchel, ond gyda lefelau mwy llym o ganiatâd yn dod i rym, rydyn ni’n buddsoddi £8 miliwn er mwyn helpu i dynnu’r ffosfforws o’r dŵr gwastraff wedi ei drin, a fydd yn helpu i leihau’r lefelau yn Afon Dyfrdwy sydd gerllaw. Bydd yn, yn ei dro, yn llesol i ansawdd yr afon a’r bywyd dyfrol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Llyn Brân
Astudiaethau Achos
Llyn Brân

Adeiladwyd cronfa ddŵr Llyn Brân ger Bylchau yn Sir Ddinbych, i ddarparu dŵr yfed ar gyfer ysbyty lleol. Ers i’r ysbyty gau ym 1995, nid yw’r gronfa wedi bod yn rhan o’r rhwydwaith dŵr. Buddsoddodd Dŵr Cymru dros £2 filiwn i ddychwelyd Llyn Brân i gyflwr llyn naturiol.

Mae’r gwaith yn cynnwys gostwng lefel y dŵr i’w lefel naturiol a dymchwel yr argae er mwyn caniatáu i’r dŵr lifo’n naturiol fel y byddai wedi gwneud cyn adeiladu’r argae.

Mae’r prosiect wedi hybu nifer o welliannau i gynefinoedd yn y rhanbarth, gan gynnwys adleoli planhigion dyfrol prin o Lyn Anafon. Bydd dymchwel yr argae yn helpu hefyd i wella mudiad pysgod, yn cynnal cynefin y llygod dŵr, ac yn cyflawni gwaith sylweddol i adfer y glannau. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle ym mis Mai 2022 a chafodd ei gwblhau yn Hydref 2022. Mae glannau’r llyn wedi cael eu hadu a dros y blynyddoedd nesaf bydd yr ardal yn ailnaturioli ac yn llewyrchu, a’r gobaith yn y pen draw yw y daw hi’n Ardal Cadwraeth Arbennig.