Sir Fynwy
Trosolwg

Mae Sir Fynwy yng nghornel de-ddwyreiniol Cymru’n cwmpasu tua 328 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o 93,000. Mae sawl afon yn Sir Fynwy, gan gynnwys Afon Gwy (sy’n ffurfio rhan o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac sy’n llifo trwy Drefynwy), ac Afon Wysg (sy’n llifo trwy’r Fenni a Brynbuga, gan gyrraedd Casnewydd ac Aber Afon Hafren yn y pen draw).

Fel busnes, mae gan Ddŵr Cymru 38 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a 3 gwaith trin dŵr, yn ogystal â 745km o garthffosydd a 1187km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch yn ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Llun o wal amddiffyn rhag llifogydd yng Ngwaith Trin Dŵr Mayhill
Astudiaethau Achos
Uwchraddio ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngwaith Trin Dŵr Mayhill

Yn dilyn y llifogydd a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, a’r effaith gafodd hynny ar weithrediad Gwaith Trin Dŵr Mayhill, buddsoddwyd dros £2 filiwn i wella ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd ar y safle. Roedd y gwaith yn cynnwys gosod wal llifogydd newydd o amgylch y safle, a gatiau llifogydd newydd ynghyd ag uwchraddio system ddraenio’r safle.

Roedd hyn yn cynnwys gosod cyfleuster sy’n cysylltu â phympiau dŵr wyneb i gael gwared â dŵr glaw yn achos llifogydd, gan sicrhau bod y safle’n gallu parhau i weithredu’n effeithlon a darparu dŵr yfed glân ar gyfer yr ardal leol.

Eicon glas o donnau i ddangos dŵr
Astudiaethau Achos
Meithrin gwydnwch yn rhwydwaith dŵr yfed Trefynwy

Rydyn ni wedi uwchraddio dros 28km o bibellau dŵr glân yn Nhrefynwy, Redwern, New Mills, Abergwenffrwd, Llanfihangel Troddi, Trelech, Cwmcarfan a’r ardaloedd cyfagos. Mae hyn wedi golygu adnewyddu 14.6km, glanhau 10.3km a chael gwared ar 3.3km o bibellau dŵr. Bydd y gwaith hanfodol yma’n helpu i wella’r rhwydwaith dŵr yfed a chadw dŵr yn llifo ar gyfer y cymunedau hyn.

Astudiaethau Achos
Gwella gweithrediad rhwydwaith dŵr gwastraff Brynbuga

Rydyn ni wedi buddsoddi dros £10 miliwn yng nghymuned Brynbuga i wella’r ffordd y mae ein gweithfeydd trin yn gweithredu ac er mwyn lleihau nifer y gollyngiadau o’n Gorlif Storm. Mae hyn wedi cynnwys uwchraddio’r asedau yn yr Orsaf Pwmpio Carthion a’r Gwaith Trin Dŵr Gwastraff, yn ogystal â chynyddu capasiti’r rhwydwaith sy’n rhedeg rhwng yr orsaf pwmpio carthion a’r gwaith trin dŵr gwastraff. Bydd hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod gan ein carthffosydd ddigon o gapasiti i ddelio â’r gwastraff y maent yn ei dderbyn a’i drin, cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd lleol yn ddiogel.