Sir Gaerfyrddin
Trosolwg

Cyfeirir at Sir Gaerfyrddin yn ne-orllewin Cymru fel ‘Gardd Cymru’, ac mae’n gartref i dros 187,000 o bobl.

Fel cwmni, mae gan Ddŵr Cymru 78 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a thri gwaith trin dŵr ar draws Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â 1,482km o garthffosydd a 2,678km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn anelu at ddiogelu a gwella’r amgylchedd drwy geisio lleihau effaith ein systemau gorlif storm yn yr ardal, yn ogystal â gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy osod pibellau dŵr newydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu taro gan fyrstiau mewn prif bibellau dŵr.

Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol
Buddsoddi er mwyn datblygu cydnerthedd ein rhwydwaith dŵr yfed yn Sir Gaerfyrddin

Rydyn ni’n buddsoddi £11.9 miliwn i uwchraddio dros 22km o bibellau dŵr ym mharth dŵr yfed Bryngwyn, gan gynnwys ardaloedd fel Maenordeilo, Salem a Chil-y-cwm. Bydd y gwaith hanfodol yma’n helpu i ddatblygu gwytnwch y rhwydwaith dŵr a gwella’r rhwydwaith dŵr yfed yn yr ardal.

Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Astudiaethau Achos
Gwella prosesau Trin Dŵr Gwastraff yn Cross Hands

Buddsoddwyd £10.3 miliwn i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y gwaith uwchraddio’n cynnwys system dosio fferrig newydd, hidlyddion tywod ychwanegol, tanciau newydd, a gorsaf bwmpio. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i wella ansawdd y dŵr wedi’i drin, a fydd yn llesol i Afon Gwili. Cwblhawyd y prosiect ym mis Mawrth 2025.

Astudiaethau Achos
Sicrhau bod gorlifan ac argae Llyn y Fan Fach yn addas ar gyfer y dyfodol

Gwnaethom uwchraddio’r orlifan ac adnewyddu’r argae a’r tŵr yng Nghronfa Ddŵr Llyn y Fan Fach, Sir Gaerfyrddin, gan fuddsoddi £3.5 miliwn. Roedd y gwaith yn cynnwys sianel goncrit parod, pont newydd i lawr yr afon, gwaith dur newydd ar fynedfa’r tŵr, a falfiau a phibellwaith newydd. Cwblhawyd y prosiect ym mis Medi 2023.