Sir y Fflint
Trosolwg

Mae Sir y Fflint yn y gogledd-ddwyrain yn cwmpasu 169 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o 155,000. Mae Aber Afon Dyfrdwy yn llifo ar hyd ochr ogledd-ddwyreiniol y sir ac mae ffin de-orllewinol y sir yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi at y dyfodol, a bydd ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer Sir y Fflint yn ymdrechu i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy adnewyddu pibellau dŵr mewn ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan broblemau cyflenwi, yn ogystal ag amddiffyn a gwella’r amgylchedd trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein safleoedd trin dŵr gwastraff.

Buddsoddi yn yr ardal yn y dyfodol
Adfer Afon Eilun

Arferai cronfa ddŵr Brithdir Mawr, a adeiladwyd ym 1897, ddarparu dŵr yfed i’r ardal leol ar un adeg. Heddiw, mae cwsmeriaid yn cael eu cyflenwi o gronfa ddŵr Alwen, felly nid yw Brithdir Mawr bellach yn rhan o’r rhwydwaith. Rydym wedi parhau i’w monitro er mwyn diogelwch, ond nawr mae’n bryd rhoi’r fan hardd hon yn ôl i natur. 

Ein cynllun yw datgomisiynu’r gronfa ddŵr yn ofalus ac adfer cwrs gwreiddiol yr afon, gan helpu bywyd gwyllt i ffynnu yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon. Bydd y gwaith yn digwydd mewn dau gam: cwblhawyd y gwaith i ddraenio’r gronfa ddŵr yn hydref 2024, yna bydd tynnu’r argae a thirlunio yn cael eu cynnal yn 2026. 

Y Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Fi a Fy Nŵr Cymru

Mae Fi a Fy Nŵr Cymru yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n adio gwerth ychwanegol yn eich cymuned. Wedi ei hwyluso gan ein model nid-er-elw, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol, yn ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, yn cynnig help a chymorth ar gyfer aelwydydd, ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl i arbed dŵr. Dyma rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd i feithrin cymunedau llewyrchus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Cliciwch drwodd i ddarganfod mwy am rai o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu yn eich ardal.

Astudiaethau achos
Cilcain 1 & 2

Ym mis Hydref 2023, cwblhawyd prosiect ar gost o £2 miliwn i ddadgomisiynu 2 gronfa ddŵr yng Nghilcain, i ddychwelyd yr ardal i’w thirwedd naturiol yn rhan o afon Nant Gain. Am nad yw’r cronfeydd dŵr yn rhan o’r rhwydwaith dŵr yfed gwreiddiol, penderfynwyd adfer yr ardal i’w ffurf wreiddiol. Gan weithio gyda’n partneriaid cyfalaf, Envolve, cydweithiodd y tîm yn agos â’n tîm o arbenigwyr arbenigol i gyflawni gwelliannau er mwyn gwella bioamrywiaeth yn yr ardal a chaniatáu i fywyd gwyllt lewyrchu.

Yn ogystal â chyflawni’r cynllun, cyflawnodd y tîm ar y safle nifer o welliannau cymunedol, gan gynnwys cyfrannu deunyddiau oedd dros ben, ymweld â’r ysgol gynradd leol i gyflwyno gweithdy ar beirianneg a’r cylch dŵr, a chroesawu’r ysgol i’r safle ar ôl cwblhau’r gwaith. Cyfrannodd y tîm ddeunyddiau a phont o’r safle i grŵp gardd gymunedol leol hefyd, a threuliwyd diwrnod yn gwirfoddoli yn y gerddi. Mae nifer o grwpiau lleol wedi elwa ar ein Cronfa Gymunedol  wrth i ni weithio yn yr ardal hefyd.

Croesi Afon Dyfrdwy
Astudiaethau achos
Croesi Afon Dyfrdwy

Fe fuddsoddon ni £6.8 miliwn er mwyn gosod dwy bibell newydd o dan Afon Dyfrdwy yng Nghei Connah er mwyn sicrhau bod miloedd o gwsmeriaid a busnesau pwysig yn yr ardal yn cael cyflenwad dŵr dibynadwy am ddegawdau i ddod. Gan ddefnyddio technoleg arloesol, mae dwy bibell 800m wedi cael eu gosod o dan Afon Dyfrdwy rhwng Gweithfeydd Dur Shotton a Heol y Doc yng Nghei Connah. Daeth y gwaith â darnau segur o’r rhwydwaith dŵr yn ôl i ddefnydd hefyd er mwyn helpu i wella gwytnwch y cyflenwad dŵr yn yr ardal. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn Ebrill 2022 a chafodd ei gwblhau yn Ebrill 2023.

Pibell Godi Dŵr Budr Bretton
Astudiaethau achos
Pibell Godi Dŵr Budr Bretton

Fe fuddsoddon ni dros £2 filiwn mewn gwaith i osod prif bibell godi dŵr gwastraff newydd i amddiffyn yr amgylchedd a gwella’r rhwydwaith dŵr gwastraff ar gyfer cwsmeriaid yn Bretton a Saltney. Gosodwyd bron i 2km o garthffosydd newydd o’r orsaf bwmpio yn Bretton i bentref Saltney lle’r oedd yn cysylltu â’r rhwydwaith gwastraff cyfredol.

Defnyddiwyd amryw o ddulliau i osod y bibell mewn ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion, busnesau a modurwyr, gan gynnwys technoleg drilio hollol fodern i dyllu o dan ffordd brysur er mwyn gosod y bibell newydd i heb effeithio’n ormodol ar draffig yn yr ardal.