
Mae Torfaen yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’n cynnwys cymysgedd o gymunedau trefol a gwledig, pob un â’i gymeriad a’i threftadaeth unigryw ei hun. Mae’n gartref i dros 95,000 o bobl. Fel cwmni, mae gan Dŵr Cymru 2 waith trin dŵr gwastraff a 2 waith trin dŵr ar draws Torfaen, yn ogystal â 609km o garthffosydd a 606km o bibellau dŵr i wasanaethu’r sir.
Y brif afon sy’n llifo trwy Dorfaen yw Afon Lwyd, sy’n llifo o Flaenafon, trwy Bont-y-pŵl a Chwmbrân, ac yn ymuno ag Afon Wysg yng Nghaerllion.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys parhau i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed yn ogystal â chryfhau ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Rydyn ni wedi uwchraddio gorlif carthffosiaeth gyfun (CSO) tanddaearol ar Lôn Pont-y-felin, sy’n rhyddhau i Afon Lwyd. Buddsoddwyd £13 miliwn mewn ateb sy’n seiliedig ar natur sy’n cynnwys defnyddio gwelyau cyrs a gwlyptiroedd i drin gollyngiadau a gwella ansawdd dŵr yn Afon Lwyd ac Afon Wysg. Mae’r prosiect yn cynnwys llwybrau troed, gatiau mynediad i gerddwyr, seddi awyr agored, a thirweddu er mwynhad y gymuned. Mae’r safle’n rhoi hwb i fioamrywiaeth leol ac yn cynnig cyfleoedd addysgol i ddysgu rhagor am eu hamgylchedd lleol.