
Sir Wrecsam yw cartref Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, campwaith peirianneg sifil o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol a ddaeth yn safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2009.
Mae Wrecsam yn gartref hefyd i glwb pêl-droed hynaf Cymru a’r stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein ffocws ar fuddsoddi at y dyfodol yn Wrecsam er mwyn helpu i amddiffyn a gwella’r amgylchedd trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar wella ein safleoedd trin dŵr gwastraff.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Mewn tywydd eithriadol o wlyb, mae rhannau o’r rhwydwaith dŵr gwastraff yng Ngwersyllt, Wrecsam, yn gallu cael eu llethu, gan osod eiddo yn ardal Llys Lambourne mewn perygl o lifogydd. Yn gynharach eleni, cwblhaodd ein Contractwyr Partner, Morgan Sindall, ynghyd â’u hisgontractwyr William Hughes Cyf a HB Tunnelling, gynllun £2 miliwn i helpu i amddiffyn cartrefi yn yr ardal rhag llifogydd, yn ogystal â helpu i amddiffyn yr amgylchedd lleol mewn cyfnodau o law trwm.
Yn ystod y prosiect 6 mis yma, roedd y gwaith ar y safle’n cynnwys gosod pibellau ychwanegol yn y rhwydwaith gwastraff er mwyn creu storfeydd ychwanegol o fewn y system ar gyfer cyfnodau o law trwm, a chyflawni addasiadau i danc storio cyfredol o dan y ddaear. Cafodd pibellau newydd eu gosod mewn sawl lleoliad gwahanol gan gynnwys dan faes chwarae ysgol gynradd.