Ynys Môn
Trosolwg

Afon Menai sy’n gwahanu Ynys Môn wrth dir mawr Cymru. Dwy bont, sef Pont grog Menai a Phont Britannia, a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif, sy’n cysylltu’r ynys â’r tir mawr.

Fel ynys fwyaf Cymru, mae Ynys Môn yn cwmpasu arwynebedd o 276 milltir sgwâr, sy’n golygu taw hi yw’r ynys fwyaf ond pedair ym Mhrydain.

Dros y pum mlynedd nesaf, ein ffocws fydd buddsoddi at y dyfodol, a bydd ein rhaglen fuddsoddi ym Môn yn ymdrechu i wella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr yfed trwy adnewyddu, yn ogystal ag amddiffyn a gwella’r amgylchedd, trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein safleoedd trin dŵr gwastraff.

Y Cyfnod Buddsoddi Blaenorol
2020-2025

Bob pum mlynedd, rydyn ni’n mynd ati i baratoi cynllun busnes rheoliadol sy’n cael ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o’r broses Adolygu Prisiau. Mae’r cynlluniau’n seiliedig ar safbwyntiau cwsmeriaid ac yn cynnwys ein hymrwymiadau o ran perfformiad, effeithlonrwydd, buddsoddiadau a biliau. Isod mae esiampl o’r gwaith a gyflawnwyd yn eich ardal chi yn ystod y cyfnod buddsoddi blaenorol sef 2020-2025.

Fi a Fy Nŵr Cymru

Mae Fi a Fy Nŵr Cymru yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n adio gwerth ychwanegol yn eich cymuned. Wedi ei hwyluso gan ein model nid-er-elw, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol, yn ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, yn cynnig help a chymorth ar gyfer aelwydydd, ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl i arbed dŵr. Dyma rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd i feithrin cymunedau llewyrchus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Cliciwch drwodd i ddarganfod mwy am rai o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu yn eich ardal.

Gweithfeydd trin dŵr gwastraff Benllech
Astudiaethau Achos
Gweithfeydd trin dŵr gwastraff Benllech

Rydyn ni wedi cyflawni gwaith gwella yn ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff  ym Menllech, gan adnewyddu dau danc setlo.

Daw’r gwaith yma â nifer o wahanol fuddion i’r safle, ond ar y cyfan, mae’r mesurau hyn yn cyfrannu at broses fwy cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar o drin dŵr gwastraff yng ngweithfeydd trin dŵr gwastraff Benllech.