Cymrwch yr arolwg yma
Helpwch i lywio cynlluniau hirdymor Dŵr Cymru
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd angen i wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ymateb i bwysau cynyddol o bob math:
- Mae pethau’n anodd ar gymunedau ar draws Cymru yn sgil costau byw uchel, ynghyd â diffyg twf economaidd.
- Mae newid hinsawdd yn achosi hafau mwy poeth a sych, gaeafau mwy gwlyb, a mwy o dywydd eithafol, gan gynyddu’r perygl o sychder, llifogydd a phwysau ar gyflenwadau dŵr.
- Yr un pryd, mae iechyd afonydd Cymru’n wael, dan effaith trin carthion, gorlifoedd storm, gweithgarwch amaethyddol a halogyddion eraill.
- Mae rhannau niferus o’r rhwydwaith dŵr a dŵr gwastraff yn heneiddio, ac mae angen eu hadnewyddu a’u moderneiddio.
- Mae argyfyngau’r hinsawdd a byd natur yn golygu bod angen i bob sefydliad yng Nghymru gydweithio i leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr a helpu i adfer ecosystemau iach.
Rydyn ni am sicrhau y gallwn:
- Gadw biliau’n fforddiadwy ac yn deg, yn arbennig i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu.
- Cynorthwyo cymunedau i lewyrchu trwy ddarparu swyddi, hwyluso twf economaidd, a lleihau anghyfleustra i gwsmeriaid a busnesau.
- Amddiffyn ansawdd uchel dŵr yfed diogel fel gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
- Darparu cyflenwadau dŵr dibynadwy wrth i newid hinsawdd, cyfnodau sych a newidiadau yn y boblogaeth effeithio ar y galw.
- Amddiffyn ansawdd dyfroedd ymdrochi fel nad oes angen i bobl boeni am nofio yn y môr a’u hafonydd lleol.
- Cyfrannu at wella iechyd afonydd a moroedd, a chynorthwyo bioamrywiaeth.
- Lleihau byrstiau mewn pibellau a diffygion eraill ar asedau sy’n achosi llygredd a thoriadau mewn cyflenwadau.
Bydd eich safbwyntiau chi’n ein helpu ni i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl ar draws Cymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy.
Mae’r sialensiau hyn yn golygu bod angen gwneud dewisiadau anodd ynghylch ymhle i fuddsoddi a pha mor gyflym, a sut i gydbwyso gwelliannau ar gyfer cwsmeriaid heddiw â sicrhau gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd eich safbwyntiau chi’n ein helpu ni i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl ar draws Cymru.
Dywedwch eich dweud heddiw
Ni ddylai gymryd mwy nag ychydig funudau i’w gwblhau, a bydd eich atebion yn ddienw.