Ein Hymrwymiad

Fel rhan o AMP 8 2025-2030, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dryloyw gyda’r gwelliannau y byddwn yn eu gwneud dros y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt.

Gyda rhaglen fuddsoddi fwy nag erioed o’r blaen, byddwn yn weladwy iawn mewn cymunedau lleol, felly rydyn ni am i’n cwsmeriaid wybod beth sy’n digwydd o’u cwmpas, y prosiectau rydyn ni’n cychwyn arnynt a’r buddsoddiadau a’r gwelliannau rydyn ni’n eu gwneud.

Bydd yr adran hon o’r wefan yn datblygu dros y pum mlynedd nesaf wrth i brosiectau gael eu gwireddu. Cliciwch ar eich cymuned i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal leol.

  • Ffin y rhanbarth carthffosiaeth
  • Ffin y rhanbarth dŵr
Buddsoddiadau yn Eich Ardal
Bydd y map rhyngweithiol yma'n parhau i gael ei ddiweddaru wrth i ragor o gynlluniau buddsoddi fynd yn fyw dros y cyfnod buddsoddi 5 mlynedd nesaf.

Mae Dŵr Cymru’n bwriadu buddsoddi £4 biliwn dros y pum mlynedd nesaf (2025-2030), cynnydd o 68% o’i gymharu â’r pum mlynedd flaenorol. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys £2.5 biliwn sydd wedi’i neilltuo i ddiogelu a gwella’r amgylchedd. Mae’r cynllun buddsoddi hefyd yn canolbwyntio ar wella cydymffurfiaeth dŵr yfed a lleihau cwynion cwsmeriaid am ansawdd dŵr.  Dewiswch leoliad i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi: